North West Wales Samaritans Branch
Charity number: 1170372
Website: www.samariaidbangor.cymru
Description:
Ein Gwasanaethau (Scroll down for English)
Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar gyfer y rhai sydd yn unig, yn drallodus neu yn ystyried diweddu eu bywydau ac rydym ar gael 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn. Rydym yn ceisio gweithio gyda’n gilydd i geisio lleddfu’r teimladau hyn o unigrwydd a diffyg cysylltiad a all arwain at hunanladdiad, ond rydym yma ar gyfer pawb sydd angen clust i wrando a’r cyfle i fynegi eu teimladau a’u pryderon, nid yn unig y rhai sydd yn teimlo bod hunanladdiad yn anochel. Ni fyddwn byth yn barnu ac weithiau, oherwydd amgylchiadau, gall fod yn haws ymddiried mewn rhywun sydd yn gwbl anhysbys.
Gweledigaeth y Samariaid yw y bydd llai’n marw o hunanladdiad. Mae’n bosib rhwystro hunanladdiad, nid yw’n anochel. Mae’r rhesymau am hunanladdiad yn gymhleth, ond tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn sydd yn gadael teulu a chymuned wedi eu dryllio gan eu colled.
Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando ar y ffôn (yn Gymraeg a Saesneg), gwasanaeth e-bost (yn Saesneg yn unig) a gwasanaeth ysgrifennu llythyr (yn Gymraeg a Saesneg). Mae’n bosib ymweld â’r Ganolfan i gael cymorth wyneb yn wyneb (ond mae’r gwasanaeth yma wedi’i atal ar hyn o bryd oherwydd y pandemic Cofid 19)
Rydym hefyd yn datblygu gwasanaeth Sgwrsio ar Lein (yn Saesneg) sydd ar gael ar adegau penodol ac yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd ar wefan gyffredinol y Samariaid pan fydd ar gael; mae’r gwasanaeth yn cael ei ehangu drwy’r amser.
Our Services
Samaritans offer a listening service for those who are lonely, in distress or thinking of ending their lives and we are available 24 hours a day, 365 days a year. We try to work together to reduce these feelings of isolation and disconnection that can lead to suicide, but we are here for anybody who needs a listening ear and the opportunity to express their feelings and worries, not just those who are actively suicidal. We are non judgmental and sometimes, because of circumstances, it may be easier to confide in somebody totally anonymous.
The Vision of Samaritans is that fewer people die by suicide. Suicide is preventable, it is not inevitable. The causes of suicide are complex, but behind every statistic is an individual, a family and a community devastated by their loss.
Samaritans offer a telephone listening service (in English and Welsh), an e-mail service (in English only) and a letter writing service (in English and Welsh). It is also possible to visit the Centre for face to face help (but this services has at present suspended due to the Covid 19 pandemic)
We are also developing an Online Chat service (in English) which is available at specific times and which is advertised at present on the general Samaritans website when functioning; the service is being continually expanded.